Sêl Llu Gofod yr Unol Daleithiau | |
Enghraifft o'r canlynol | space force |
---|---|
Rhan o | Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau |
Dechrau/Sefydlu | 20 Rhagfyr 2019 |
Yn cynnwys | Space Operations Command |
Pennaeth y sefydliad | Chief of Space Operations |
Gweithwyr | 2,501 |
Rhiant sefydliad | United States Department of the Air Force |
Pencadlys | Y Pentagon |
Enw brodorol | United States Space Force |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Arlington County |
Gwefan | https://www.spaceforce.mil/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llu milwrol sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd Unol Daleithiau America yn y gofod yw Llu Gofod yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Space Force, USSF) sydd yn un o chwe changen Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau. Er nad yw'n rhan o Awyrlu'r Unol Daleithiau, fe'i rheolir gan Adran Awyrlu'r Unol Daleithiau. Hon yw'r gangen leiaf o'r lluoedd arfog Americanaidd, a chanddi 8,600 o aelodau yn Ionawr 2023.[1] Sefydlwyd yr USSF ar 20 Rhagfyr 2019 wedi i'r Arlywydd Donald Trump arwyddo'r Ddeddf i Awdurdodi Amddiffyn Cenedlaethol ar gyfer Blwyddyn Gyllidol 2020.[2]
Rhennir yr USSF yn dair prif adran: Rheolaeth Ymgyrchoedd Gofod (SpOC), sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd yn y gofod, gan gynnwys rheoli lloerennau, rhybuddio am daflegrau, cadw golwg ar sbwriel sy'n cylchdroi'r Ddaear, ac amddiffyn rhag ymosodiadau'r gelyn o'r gofod; Rheolaeth Systemau Gofod (SSC), sy'n cynhyrchu, comisiynu a datblygu systemau gofod, gan gynnwys lloerennau, cerbydau lansio, a gorsafoedd rheolaeth o'r ddaear; a Rheolaeth Hyfforddiant a Pharodrwydd Gofod (STARCOM), sy'n gyfrifol am hyfforddiant, addysg, a datblygiad proffesiynol aelodau'r Llu Gofod.
Hwn ydy un o chwe llu gofod cenedlaethol yn y byd, a'r unig un sydd yn annibynnol ar ganghennau eraill y lluoedd arfog—mae lluoedd tebyg yn Ffrainc, Iran, Rwsia, a Sbaen ynghlwm wrth yr awyrlu neu gangen awyrofod, ac mae llu gofod Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rhan o'r Llu Cefnogol Strategol.